AMDANAF
Platiau metalaidd symud oddi fewn, adeiladu haenen amddiffynol sydd troi i garreg, tarian wedi eu saernio o ddefosiwn greddfol.
Hwn oedd y catalydd; tyfu ecsosgerbwd tra’n feichiog.Gan ddefnyddio hwn fel silwet daeth y canlyniad o ddarnau ‘amddiffynnol’ sy’n amgylchu darluniad o gyfeiriadau symbolaidd i famolaeth.
Gysylltiedig i’r ddaear, yn dragwyddol ran o natur
Mae'r newidiadau i gorff, siece ac enaid mae mamolaeth yn eu creu yn anhygoel.
Dwi'n archwilio'r shifftiau a ddaw oddi fewn cyfnod mamolaeth. Pan fydd yr arfwisg yn gostwng, y metamorffosis nesaf yn ystod chwiler, y meddwl yn ecdysis. Addasiadau yn cael eu geni.
Yn y 1600au cyfeiriodd yr enw Tattoo at y sain a wnaed o fewn y milwrol i arwyddo milwyr i ddychwelyd i ddiogelwch y gwersyll. Yn y 1700au daeth yn ferf sy'n cyfeirio at y marciau neu'r dyluniadau parhaol ar y croen trwy ei dyllu a gosod pigment.
Tatŵs, yn benodol ar merched a pham eu bod yn eu dewis sydd wedi dylanwadu'n fawr ar fy ngwaith
Cynfas yw fy nghorff, dwi’n teimlo tynfa at draddodiadau'r ffurf hon ar gelfyddyd fel ffordd o adrodd fy stori yn weledol. Maent yn nodiadau atgoffa, symbolaidd ac yn anrhegion i'r rhai rwy'n eu caru. Curiad drwm gweledol i gynrychioli cartref.
Mae fy narluniau yn gysyniadau o esblygiad, wedi’u trwytho mewn symbolaeth a hiraeth i chwedlau gwerin fy niwylliant. Offrwm i famolaeth a grym y benyw.